A ydyw’n gymwys i mi ?- Mae’r gyfraith yn eich gorfodi i gynnal Asesiad Risg o Dân a’i ddiweddaru’n rheolaidd. Waeth beth fo maint y cwmni a’r farchnad yr ydych yn gweithredu ynddi.
- Os ydych chi neu eich cwmni yn cyflogi pump neu fwy o bobl, mae’n rhaid dangos hyn trwy gopi caled sy’n bresennol yn yr adeilad ac sydd ar gael i’w archwilio.
- Nid yw asesiad risg o dân yr un fath â thystysgrif tân. Os oes gyda chi dystysgrif tân mae dal yn ofynnol ichi gynnal asesiad risg.
- Fel cyflogwr rydych yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth yma
- Mae llawer o gwmnïau yswiriant yn cynnig gostyngiadau polisi i unrhyw fusnes sydd wedi cynnal asesiad risg o dân
Nid oes yn rhaid i gynnal asesiad risg o dân fod yn gymhleth – cliciwch ar y ddolen Datrysiad FireSmart i ganfod pa mor gyflym a syml y gall fod.
|