Asesiad Risg o Dân Firesmart - Cymdeithasau Aml Safle
Materion tyngedfennol- Erbyn hyn, mae’r ddeddfwriaeth yn galw ar gwmnïau i gynnal Asesiad Risg o Dân ar gyfer pob safle lle maent yn gweithio. Mae hyn yn ychwanegol at Dystysgrif Tân.
- Os oes tân yn amlygu, gallai uwch swyddogion gweithredol y busnes gael eu dal yn gyfrifol, yn bersonol, am y canlyniadau os na fedrant ddangos tystiolaeth y cynhaliwyd asesiad risg yn unol â’r ddeddfwriaeth.
- Mae achosion o dân mewn adeiladau masnachol ar gynnydd.
- Mae costau yswiriant yn codi’n ddramatig.
Nid yw llawer o fusnesau wedi ymdrin â’r broblem eto, yn cynnwys llawer o gymdeithasau ‘blue-chip’, lle mae’r datrysiadau’n medru bod yn ddrud iawn.
Y problemau a wynebir
- Cost uchel cyflawni asesiad ar bob safle
- Dim digon o adnoddau mewnol/cost uchel ymgynghorwr allanol
- Cofnodi gwybodaeth ar ffurf defnyddiadwy er dibenion adolygu
- Rheoli ac arolygu unrhyw gamau adferol a gynhyrchwyd
- Amserlen estynedig ar gyfer cynnal asesiad
- Mae gan y gymdeithas faterion unigryw/pwysig i’w hymdrin
Manteision Firesmart
- Cost effeithiol
Mae Firesmart wedi datblygu datrysiad cost effeithiol ar gyfer cymdeithasau mawr, sy’n caniatáu iddynt gwblhau Asesiad Risg o Dân ar draws y busnes am ffracsiwn o’r gost arferol - Cyflym
Does dim angen buddsoddi mwy mewn adnoddau, caledwedd na meddalwedd TG - Gwybodaeth i reolwyr
Wrth i’r asesiadau gael eu cwblhau, caiff yr wybodaeth ei fewnbynnu’n awtomatig i’r system cronfa ddata, sy’n galluogi rheolwr y broses i oruchwylio, adolygu ac arolygu’r broses o bell - Wedi’i deilwrio i’ch anghenion unigryw
Gellir addasu’r system i ymdrin â materion sy’n unigryw/pwysig i chi a’ch cymdeithas.
Caiff y system Firesmart ei chydnabod gan Wasanaethau Tân a’r cwmnïau yswiriant mwyaf blaenllaw. Fe’i defnyddir gan nifer cynyddol o gleientiaid corfforaethol ac awdurdodau lleol.
Am wybodaeth pellach am y Datrysiadau Asesiad Risg o Dân Aml Safle Firesmart sydd ar gael, cwblhewch y canlynol, os gwelwch yn dda, neu cysylltwch â ‘Corporate Sales’
Firesmart Corporate Sales:
Titmore Court,
Little Wymondley,
Hertfordshire,
SG4 7JT
Rhif ffôn: 01438 791314
e-bost: corporatesales@firesmart.co.uk
|