Sut fyddai’n gwybod fy mod i’n cydymffurfio?Mae asesiad risg o dân yn ofyn cyfreithiol i’r mwyafrif o fusnesau yn y DU. Dogfen ysgrifenedig yw asesiad risg o dân ac mae’n dipyn mwy na chofnod o brofion diffoddiaduron ayb.
Mae’r ddeddfwriaeth yn datgan bod yn rhaid fod yna gopi ar y safle i’w archwilio. I’ch helpu i ganfod os oes gyda chi asesiad risg o dân mewn lle, ystyriwch y canlynol;
- Oes gyda chi ddogfen ar y safle sy’n ymdrin yn benodol â materion yn ymwneud â diogelwch rhag tân?
- Bydd y ddogfen yn cynnwys adran yn dwyn y teitl DARGANFYDDIADAU PWYSIG
- Y risgiau a ganfuwyd yw’r rhain, i bob pwrpas
- Dylent gynnwys camau adferol a gymerwyd i leihau’r risg
- Mae asesiad risg o dân yn ddogfen ysgrifenedig – nid yw’r un fath â thystysgrif tân
- Oni bai y cafodd ei ddogfennu fel yr uchod, mae’n annhebygol y bydd eich cwmni yswiriant neu’r cwmni cynnal a chadw diffoddiaduron wedi cynnal asesiad risg o dân
Nid oes yn rhaid i gynnal asesiad risg o dân fod yn gymhleth – cliciwch ar y ddolen Datrysiad FireSmart i ganfod pa mor gyflym a syml y gall fod.
|